Wednesday 28th July 2010
Story in brief:
Ymddangosodd y cryfhaodd Castleford seiliau'r safle honno gyda Westerman yn trosi ei gais ei hun cyn i Widders gymryd cic Ryan McGoldrick cyn llorio'r bel dros y linell. Ychwanegodd Westerman ddeubwynt arall i wneud y sgor yn 10-0.
Ymladdodd y Crusaders yn ol gyda Hanbury yn derbyn pel rydd i sgorio cais a Jordan James yn rhedeg dros y linell. Troswyd y ddau gan esgid campus Clinton Schifcofske. Rhoddodd Hauraki y fantais i'r Crusaders am y tro cyntaf yn y gem ar ol yr egwyl, gyda sgor Schifcofske yn codi i chwe phwynt gyda'i drosiad.
Daeth y gem yn gyfartal unwaith yn rhagor wrth i Shenton groesi o dan y pyst a ymddangosai fod y tim o Ogledd Lloegr yn fuddugol gyda Rangi Chase yn gorffen symudiad campus gan Castleford.
Nid felly y bu. Neidiodd Martin ar gic i'w roi dros y linell cyn i esgidiau gleision Sammut redeg dros y linell.
Cafodd Castleford gyfle i orffen y gem yn gyfartal ond collodd Westerman y bel wrth iddo gamu dros y linell.
Dywedodd Brian Noble, prif hyfforddwr y Crusaders 'Mae gennym ni bum gem yn weddill ond mae'r dyfodol yn ein dwylo ni i'r gemau ail gyfle. Rydym dal yn gryf, sydd yn dda iawn i weld. Gwyddom ni y byddwn yn sgorio pwyntiau heddiw ond ein sialens ni oedd i atal tim sydd wedi bod yn sgorio'n uchel iawn ymhob gem, er colli rhai.
Ar gyfartaledd 30 neu 40 pwynt y gem. Roedd yna ddigon o resymau i sgorio llawer o bwyntiau ar eu hochr nhw o'r cae ond roedd yna elfen o fod yn anghysurus oherwydd roedd yn rhaid ennill y gem hon heddiw.'
Bydd gem nesaf y Crusaders yn erbyn Salford City Reds ar y Cae Ras, Wrecsam ar ddydd Sul 1af Awst (cic gyntaf 3.00pm) cyn dychwelyd yn ol i dde Cymru i wynebu Harlequins RL ar Barc y Gnoll yng Nghastell Nedd ar ddydd Sadwrn 7fed Awst (cic gyntaf 7.30pm). Am docynnau cysylltwch a 01978 262129 neu ewch i www.crusadersrfl.com.
Yn anffodus colli oedd hanes South Wales Scorpions ar ol teithio i wynebu Rochdale Hornets yn Stadiwm Spotlands ddydd Sul, gan golli 46-14. Bydd eu gem nesaf yn erbyn Oldham RLFC yn Whitebank Stadium ddydd Sul 1af Awst (cic gyntaf 3.00pm). Bydd gem gartref nesaf y Scorpions ar ddydd Sul, 8fed Awst yn erbyn Doncaster RLFC ar Barc y Gnoll (cic gyntaf 2.00pm).